19.11.04
16.11.04
Hydref yn Aberystwyth Mis Tachwedd.
Wnes i hoffi'r ysgol rhydlyd 'ma am rwy reswm. Rwpeth am gyfuno'r lliwiau'r brics, cerrig a'r haearn rhydlyd.


12.11.04
Cae Cowper Caerdydd 06-11-2004
Tannau Gwylltion
10.11.04
Gwlad y Cardi 30-10-2004
9.11.04
Roddos Rhan olaf
Efallai bydd mwy os dwi'n ailystyried sawl arall wnes i eu tynnu nhw
Mae'n mor boeth ar yr ynys y mae palmwyddion yn gwywo.
Mae'n mor boeth ar yr ynys y mae palmwyddion yn gwywo.

Golwg mas o ffenest ein stafell 'molchi yn Stella Aparthotel Pefkos lle roeddwn i a'm teulu bach yn sefyll.


OM
Dwi wedi cyrraedd Mehefin ar y wefan 'ma. Mae Owen yn greadigol iawn.
FfotoFlog Newydd Cymraeg
Dwi ddim yn unig erbyn hyn croeso Stwff i'r byd ffotoflogio
3.11.04
Roddos Rhan 3 - Tref Lindos
Yr acropolis o Fae sant Paul. Yma glaniodd yr Apostol i bregethu i'r Groegwyr a dod a Christnogaeth i'r Ynys.
Os dwi'n cofio fy Meibl yn iawn doedd fawr o lywddiant ganddo i ddechrau.
Os dwi'n cofio fy Meibl yn iawn doedd fawr o lywddiant ganddo i ddechrau.

Waliau'r acropolis (codwyd i amddiffyn yr ynys o'r Mwslemiaid gan Marchogion Sant Ioan) uwch ben y maes Parcio. - does mynediad i'r dref i geir. (dim ond i asynod, cerddwyr a scwters).


Mae acroplolis yn cynnwys pensaeriaeth o'r oesoedd clasurol Groeg a Rhufain, yr oes Bysantaidd, a waliau castell o'r canol oesoedd (wedi eu codi ychydig ar ôl castell caerffili, jyst wedi marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd).


Mae Groegwyr yn defnyddio cerrig newydd wedi eu naddu, a sawl carreg wreiddiol i ail adeiladu'r acropolis


felly asynod ydy'r tacsis. Edrych yn hapus ac yn iach oedd y rhan fywaf ohonyn nhw er doeddwn ni ddim yn siwr os oedd sawl un yn cael eu trin yn iawn.

